Dyddiad cau’r gystadleuaeth: 15 Rhagfyr 2016
Cyhoeddi’r enillwyr: 31 Mai 2017
Derbynnir ceisiadau yn Saesneg neu yn Gymraeg.
Mae’r project Darllen Ffuglen Ddigidol dan nawdd AHRC, ar y cyd â Phrifysgol Bangor (Cymru) a Phrifysgol Sheffield Hallam (Lloegr), yn lansio cystadleuaeth newydd i ddarganfod y ffuglen ddigidol “boblogaidd” orau: ffuglen ddigidol sy’n apelio i gynulleidfaoedd prif ffrwd.
Mae ffuglen ddigidol yn ffuglen a ysgrifennir i gael ei darllen/chwarae ar ddyfeisiadau digidol. Yn bwysicach, mae ffuglen ddigidol yn wahanol i e-lyfr. Yn hytrach na bod yn fersiwn ddigidol o nofel brintiedig, mae ffuglen ddigidol “wedi’i geni’n ddigidol” – hynny yw, byddai’n colli rhywbeth ar ei ffurf a/neu ystyr os caiff ei symud o’r cyfrwng digidol. Er enghraifft, gall gynnwys hypergysylltiadau, delweddau sy’n symud, gemau bach neu effeithiau sain. Mewn sawl ffuglen ddigidol, mae gan y darllenydd swyddogaeth o ran adeiladu’r naratif, naill ai drwy ddewis hypergysylltiadau neu drwy reoli taith cymeriad drwy fyd y stori. Felly gyda ffuglen ddigidol mae angen i’r darllenydd ryngweithio gyda’r naratif drwy gydol y profiad darllen. Gall enghreifftiau o wahanol fathau o ffuglen ddigidol gynnwys hypergysylltiadau, gemau antur-testun, storïau amlgyfrwng, fideo rhyngweithiol, gemau llenyddol a rhai rhaglenni symudol.
Nid oes unrhyw gyfyngiadau o ran y mathau o feddalwedd y gallwch eu defnyddio i gynhyrchu ffuglen ddigidol; mae popeth yn cynnwys HTML, Adobe Flash, Inform7, Twine, YouTube, Twitter, ac eraill wedi eu defnyddio i wneud ffuglen ddigidol. I wneud cais i’r gystadleuaeth, cyflwynwch gysylltiadau neu ffeiliau sydd ar gael yn agored ar unrhyw gyfrifiadur (Mac neu PC), ac a fydd yn rhedeg mewn porwr gwe.
Bwriad y project Darllen Ffuglen Ddigidol yw cyflwyno rhagor o ddarllenwyr i ffuglen ddigidol ac felly mae’r gystadleuaeth Ymestyn Ysgrifennu Ffuglen Ddigidol wedi ei chynllunio i ehangu’r nifer sy’n darllen ffuglen ddigidol fel eu bod yn cynnwys rhan ehangach o’r cyhoedd. Felly er bod y gystadleuaeth yn agored i bob awdur (newydd a phrofiadol) ac i bob math o ffuglen ddigidol, rydym yn chwilio am waith sy’n apelio’n eang i gynulleidfa fawr ac sydd â chytunedd eang gyda llawer o ddyfeisiau.
Categorïau’r gwobrau yw:
- Gwobr y Beirniaid
- Barn y Bobl
- Gwobr yr iaith Gymraeg*
- Gwobr Myfyriwr
- Stori i Blant
*Cofnodion Cymraeg yn gymwys ar gyfer pob categori gwobr.
Bydd yr enillwyr yn derbyn gwobr ariannol (i’w chyhoeddi), cyhoeddi’r gwaith ar wefan Darllen Ffuglen Ddigidol, a chyfres o gyfarfodydd mentora gyda beirniaid dethol ar broject ffuglen ddigidol y dyfodol.
Bydd rhagor o wybodaeth am y gystadleuaeth i’w chael yma cyn hir.